Dyma rai o’r prosiectau mae'r elusen wedi’u hariannu ers i ni ddechrau yn 2020
Llongyfarchiadau i Growing For Change, sydd wedi’u lleoli yn Nhregarth ac wedi cael grant o £3,000 tuag at atgyweirio difrod a achoswyd gan storm Isha ym mis Ionawr. Cafodd y prosiect arian cyfatebol gan sefydliadau eraill, a chymorth gan y gymuned leol a gododd £2,900 ychwanegol mewn ychydig wythnosau. Dymuniadau gorau oddi wrth Elusen Ogwen ar gyfer y tymor tyfu sydd i ddod!
Sefydlwyd Elusen Ogwen ym mis Rhagfyr 2020 er mwyn helpu i ddosbarthu peth o elw Ynni Ogwen, er budd y gymuned leol. Yn ddiweddar, yn Ebrill 2024, cynhaliwyd cyfarfod o'r Ymddiriedolwyr i gymeradwyo pum grant newydd, gyda'r pumed, i Ganolfan Tregarth, yn mynd â chyfanswm y grantiau i £54,249. Dywedodd Lowri Williams, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, ei bod yn falch iawn o gyhoeddi’r grantiau diweddar a'i bod yn edrych ymlaen at fedru cynnig cymorth pellach i grwpiau lleol yn y dyfodol. Mae Chanolfan Tregarth wedi defnyddio'r pres i trefnu ffensys a llwybrau allanol newydd.
Roedd Elusen Ogwen yn falch iawn o gael cefnogi Cor Y Penrhyn yn gynharach eleni yn dilyn cais i brynu cyfrifiaduron iPad i aelodau’r côr. Mae'r set cyntaf o 13 bellach wedi cyrraedd ac yn cael eu defnyddio yn yr ymarfer wythnosol. Bydd yr Ipads yn helpu i leihau'r angen i argraffu sgorau cerddoriaeth yn ogystal â dod â manteision eraill i aelodau'r côr trwy ddefnyddio apiau cerddoriaeth arbennig.
Sefydliad lleol arall sydd wedi derbyn grant gennym yw Clwb Gymnasteg Dreigiau’r Dyffryn. Gwaeth y clwb gais am grant er mwyn newid yr hen stribedi golau oedd yn ddrud i'w cynnal am rai newydd LED ynni isel.
Meddai Sophie Pipe, Prif Hyfforddwr a Chyfarwyddwr y Clwb: "Mae hyn wedi rhoi golau hyfryd, glân a gwastad ar draws y gampfa, sydd yn berffaith ar gyfer hyfforddi ac yn llawer saffach hefyd. Fe wnaeth y gosodwyd, HJT Electric job broffesiynol iawn yn eu gosod, ac roeddem wrth ein boddau bod cynifer o bobl wedi sylwi ar y gwahaniaeth gan ddweud bod golau’r gampfa yn llawer mwy llachar.
"Rydym yn arbed arian hefyd, sydd yn fonws! Roedd y gosodwyr yn amcangyfrif y byddem yn arbed hyd at 70% o’n defnydd trydan i oleuo’r uned; sy’n newyddion gwych gyda chostau trydan wedi cynyddu gymaint."
Mae Bwyd am Byth CIC wedi bod yn gweithio gydag ysgolion a chartrefi gofal ers rhai blynyddoedd, yn darparu gweithgareddau garddio ac addysg am dyfu a bwyta bwyd iach. Defnyddiwyd arian gan Elusen Ogwen i helpu i sefydlu sesiynau Bwyd a Byw yn y Gwyllt yn ystod gwyliau'r haf. Roedd y rhain yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau ysgol goedwig a garddio i gyfoethogi gweithgareddau cymdeithasol, addysgol ac amgylcheddol i bobl ifanc ardal Bethesda.
Sefydlwyd Asynnod Eryri yn 2013 i hybu iechyd a lles trwy weithio a cherdded gyda mulod yn amgylchedd gogledd Cymru. Cysylltodd yr elusen ag Elusen Ogwen yn 2022 ac rydym yn falch o fod wedi dyfarnu grant a fydd yn caniatáu iddynt osod panel solar a storfa batri ar eu safle yn Nhregarth. Ar hyn o bryd nid oes cyflenwad trydan ar y safle a bydd y panel a’r batri yn helpu i ddarparu golau gyda’r hwyr ac ym misoedd y gaeaf, yn ogystal â thrydan ar gyfer gwresogi a lluniaeth i wirfoddolwyr a chleientiaid.
Bethesda Cricket and Bowls Club had a drafty window replaced by double glazing, funded by Elusen Ogwen in 2023
Mae Elusen Ogwen wedi ariannu prosiect yng Nghylch Methrin Tregarth i ehangu eu hardal awyr agored. Mae hwn yn brosiect I blant y Cylch ddysgu am y byd natur – planhigion, blodau ac adar lleol. Mi fydd y plant wrth ei boddau yn dysgu am planu a tyfu bwyd yn y ty gwydr fel tomatos a lettuce. Mi fydd hyn yn helpu iddynt wybod lle mae bwyd yn dod o ac efallai yn y dyfodol helpu iddynt hwythau a’u teulu gwneud hyn yn eu cartrefi. Mi fydd y plant yn meithrin sgililau newydd wrth arddio.