Mae Elusen Ogwen yn cefnogi cynlluniau fydd yn gwella ansawdd bywyd trigolion, grwpiau a chymunedau Nyffryn Ogwen. Mae'n gwneud hynny drwy ddosbarthu elw o gynlluniau ynni Ynni Ogwen.
Mae grwpiau cymunedol yn gallu ymgeisio am gefnogaeth o hyd at £3,000 gan Elusen Ogwen i brosiectau fydd yn creu budd i drigolion Dyffryn Ogwen. Mae’r Elusen yn medru cyfrannu at brosiectau cyfalaf a refeniw sy’n gwneud y canlynol:
Lleihau tlodi tanwydd.
Datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy.
Hybu trafnidiaeth gynaliadwy a theithio actif.
Arbed ynni.
Cysylltu unigolion o bob oed â’r amgylchedd.
Lleihau gwastraff.
Annog unigolion i wirfoddoli mewn prosiectau amgylcheddol yn eu cymunedau.
Gwella ansawdd yr amgylchedd lleol.
Cynyddu cynhyrchu / prynu cynnyrch bwyd lleol.
Mae mwy o wybodaeth amdanom ni yma.