I wneud cais am grant o hyd at £3,000, gofynnir ichi ddarllen y canllawiau yn fanwl a llenwi'r ffurflen gais - ar ôl ei lwytho i lawr yn gyntaf - ni ellir cwblhau'r o ar-lein . Rydym yn gwahodd ceisiadau erbyn y dyddiadau canlynol:
31 Mawrth
30 Mehefin
30 Medi
31 Rhagfyr
Sylwch mai cais am un grant yn unig y caiff grwpiau fel arfer ei gyflwyno yn ystod blwyddyn ariannol yr Elusen, rhwng mis Ebrill a mis Mawrth. Dylai grwpiau drafod â'r Ymddiriedolwyr yn gyntaf os ydynt yn dymuno gwneud mwy nag un cais yn ystod y flwyddyn.
Dylid anfon ffurflenni cais, ynghyd â'r dogfennau gofynnol, at yr elusen drwy e-bost yn: elusenogwen@gmail.com
Cliciwch ar y botwm i agor y ffurflenni ac yna defnyddiwch y ddewislen File (chwith uchaf) i'w lawrlwytho.
Copi o gyfansoddiad y grŵp neu Erthyglau Cymdeithasu wedi ei arwyddo a’i ddyddio
Copïau o tystysgrif Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus
Copïau o ddatganiadau banc mwyaf diweddar y grŵp ( ar gyfer pob cyfrif).
Eich cyfrifon ariannol diweddaraf
Tystiolaeth o angen e.e. llythyrau cefnogaeth, cofnodion sesiynau ymgynghori, deiseb ayb
Copïau o amcan brisiau ysgrifenedig / dyfynbrisiau ar gyfer pob eitem sydd angen ei ariannu (3 pris cyfatebol ar gyfer eitemau dros £1,000.)
Tystiolaeth o unrhyw gyfraniadau eraill tuag at y cynllun. (tystiolaeth o arian cyfatebol y cynllun, os yn berthnasol).
Cynllun safle / braslun (os yn berthnasol.)
Tystiolaeth o fudd cyfreithiol mewn eiddo e.e. les neu weithredoedd (os yn berthnasol.)
Tystiolaeth o ganiatâd cynllunio neu dystiolaeth ysgrifenedig gan yr awdurdod perthnasol yn cadarnhau nad oes angen caniatâd cynllunio ( os yn berthnasol).
Tystiolaeth cymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu neu dystiolaeth ysgrifenedig gan yr awdurdod perthnasol yn cadarnhau nad oes angen cymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu (os yn berthnasol).